Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 8 Hydref 2020
Amser:
13.45 -
16.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6521
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AS (yn lle Mike Hedges AS) Janet Finch-Saunders AS Llyr Gruffydd AS Neil Hamilton AS Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Joyce Watson AS |
Tystion: |
Gian Marco Currado, Llywodraeth Cymru Andy Fraser, Llywodraeth Cymru Lesley Griffiths AS Catriona Hawthorne, Llywodraeth Cymru James Morris, Llywodraeth Cymru Rhiannon Phillips, Llywodraeth Cymru Christine Wheeler, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) Francesca Howorth (Ymchwilydd) |
Yn absenoldeb y Cadeirydd, etholwyd Jenny Rathbone AS yn Gadeirydd dros dro o dan reol sefydlog 17.22
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges AS a dirprwyodd Mick Antoniw AS ar ei ran.
2 Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
2.1 Bu’r Aelodau yn holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’i swyddogion ar Gynllun Allyriadau’r DU.
3 Sesiwn graffu gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar ymateb Llywodraeth Cymru i lifogydd yng Nghymru
3.1 Bu’r Aelodau yn holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’i swyddogion ar ymateb Llywodraeth Cymru i lifogydd yng Nghymru.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - Y wybodaeth ddiweddaraf am Fil Pysgodfeydd y DU ac ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 2) ar y Bil Pysgodfeydd
4.2 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar gyfer Bil Amaethyddiaeth y DU
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o sesiwn gyntaf y cyfarfod ar 15 Hydref 2020
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitem 2
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a godwyd yn ystod y sesiwn.
7Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitem 3
7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn graffu.